{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diweddarir yn rheolaidd

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Medi i Rhagfyr 2019

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Dydd Sul, 8 Medi
Yr Aran o Feddgelert
9.15 - 9.30
Maes parcio (talu) tu cefn i'r ysgol ger Gwesty'r Goat (SH 589481).

Cylchdaith ar y cyd hefo Richard Till drwy dir preifat fferm Richard a Iola, Perthi, dros Craig Wen ac i gopa'r Aran. Ymlaen wedyn efallai drwy Cwm Bleiddiad / Hyrddod uwchben Craflwyn yn ôl i Feddgelert.  Tir garw a serth heb lwybrau i gopa Craig Wen. 

Morfudd Thomas


Dydd Sadwrn 14 Medi
Pedol Cwm Idwal
9.15 - 9.30
Arosfan agosaf at Ben-llyn Ogwen (SH 656602).

Taith o tua 13 km/8 milltir a 1120 m/3700’ o ddringo dros gopaon Tryfan, Glyder Fach, Glyder Fawr a’r Garn.

Rhys Dafis


Dydd Sadwrn 14 Medi
Taith Dyffryn Tywi
9.15    9.30
Maes parcio castell Carreg Cennen (SN 664 193)

Tua 11 milltir dros dirwedd amrywiol. Cais gan geidwad y castell  i barcio yn daclus ac mor agos â phosib i’n gilydd. Cyfle i ymweld â’r castell ar ddiwedd y daith os y dymunir (mynediad £5.50). Paned ar y safle neu rhywbeth cryfach yn y Cennen ym mhentref Trap.

Meirion Jones


Dydd Sadwrn 21 Medi
Tri chopa’r Eifl
9.45 - 10.00
Maes parcio uwchben Nant Gwrtheyrn (SH 353440).

Tua 7.5 km a dim ond 500 m o ddringo. Mynd tua’r gogledd ddwyrain am Fwlch yr Eifl, yna dringo’r isaf o’r tri copa (444 m) uwchben chwarel Trefor. Dychwelyd i'r bwlch a dringo’r Eifl ei hun (564m) yna archwilio olion hen fryngaer Tre’r Ceiri (480m). Ymweld â Chaergribin ar y ffordd yn ôl. Paned yng nghaffi Meinir (neu beint yn y Fic) cyn ei hel hi am adre? Cysylltwch ar ebost os am gael copi OS o’r daith

Raymond Wheldon-Roberts


Dydd Mercher 25 Medi
Ardal Maenan
10.15 10.30
Abaty Maenan, ger Llanrwst (parcio yma a chael paned wedyn). Cod post: LL26 0UL (SH 789657)

Cylchdaith yn ardal Maenan a galw heibio Cadair Ifan Goch.

Elizabeth ac Iona


Dydd Sadwrn 28 Medi
Crib Nantlle
9.15 - 9.30
Maes parcio Rhyd-ddu (talu a thoiledau) ger yr orsaf drên (SH 571525).

Taith ar hyd y grib o Ryd-ddu i Nebo. Neu gellir parcio’n ddi-dâl, os oes lle, yn y gilfan ar ochr y B4418 (SH 566526) ar ddechrau’r llwybr. Rhaid cysylltu â’r arweinydd erbyn 7.00 nos Iau fan bellaf i drefnu cludiant yn ôl o Nebo.

Elen Huws


28 Medi – 5 Hydref
Gogledd Iwerddon - Mynyddoedd Mourne neu na Beanna Boirche

Aros yn Tory Bush Cottages ger Newcastle, Sir Down o fewn cyrraedd dewis da o deithiau  Mae’r daith yn llawn ond croeso i chi wneud eich trefniadau eich hunan – efallai y bydd bythynnod i’w cael ar y safle.

***Gan fod dau wedi tynnu'n ôl o'r daith, felly ar fyr rybudd, mae dau le gwag gyda ni i'w llenwi. Gyda trefn yr ystafelloedd, mae lle i un merch ac un dyn gyda ni. £120 fyddai cost y llety. Hefyd, mae gan Sian Shakespear (07890 613933) le i deithio gyda hi yn ei char.

Raymond Griffiths


Dydd Sul 6 Hydref
Llwybr y Llechi – Llan Ffestiniog i Benmachno
8.45     9.00
Maes parcio Llan Ffestiniog (SH 701 420)

Mae’r daith hon yn 13 milltir gyda chodi o 880 m, ac mae’n rhan o “Daith y Llechi”. Ceir y manylion llawn ar wefan Snowdonia Slate Trail. Dim copaon a dim llethrau serth. Taith ddiddorol sydd mae'n debyg yn mynd drwy ardal sydd yn ddiarth i lawer. Disgwyl cyrraedd Penmachno tua 18:00 a bydd trefniant i gael tacsi yn ôl ar ôl cael rhyw ddiferyn bach yn y dafarn. Am fod y rhaid trefnu cludiant mae’n ofynnol cael enwau yn gynt nag arfer, wythnos o flaen y daith os yn bosib.

Iolyn Jones


Dydd Sadwrn 12 Hydref
Y Moelwynion
09.15 - 09.30
Dolrhedyn (SH 683454) – dal dim tafarn!

Cerdded i Gwmorthin ac i fyny Moel yr Hydd, gydag dewis o sgrambl, yna ymlaen dros gopaon Moelwyn Mawr a'r Bach. Dringo tua 750m mewn tua 11km.

Myfyr Tomos


Dydd Sadwrn 12 Hydref
Taith Rosebush, Sir Benfro
9.15 - 9.30
Maes parcio tu ôl i Tafarn Sinc (nid yr un cyntaf o flaen y dafarn).

Taith gylch o tua 12 milltir yn cynnwys, Foel Cwmcerwyn, Tafarn y Bwlch (nid oes tafarn yna), Cwm Gweun, Foel Eryr, Bwlch-gwynt ac yn ôl i Rosebush (lle mae tafarn).

Helen Williams a Digby Bevan


Dydd Sadwrn 19 Hydref
Arenig Fawr a Moel Llyfnant
9.15 - 9.30
Ger Pont Rhyd-y-fen ar ochr y ffordd am Arenig (SH 817393), wedi troi o’r A4212. Rhannu ceir yn ôl yr angen i barcio gyferbyn â hen chwarel Arenig.

Dilyn y ffordd am 1.5 km i ymuno â’r trac i Lyn Arenig Fawr yna’r llwybr serth i fyny cefnen y Castell i gopa Arenig Fawr. Ymlaen dros y copa deheuol cyn disgyn i’r ysgwydd o dan Moel Llyfnant ac i fyny am y copa a dilyn y grib lydan at Amnodd Bwll a thrac y goedwig i Amnodd Wen – tir corsiog iawn – cyn ymuno â’r hen reilffordd yn ôl at y chwarel.  11 milltir a 2900 troedfedd o ddringo.

Stephen Williams


Dydd Mercher 23 Hydref
Talybont i Aber
9.30 9.51
Maes parcio wrth ymyl y man dal bws, Abergwyngregyn (y bws yn gadael am 9.51).

O Dalybont i Aber gan ddilyn Llwybr y Gogledd. Mae opsiwn o fyrhau’r daith a mynd i lawr i bentref Aber yn hytrach na mynd am y Rhaeadr Fawr os ydy’r tywydd yn wael. Y daith gyfan yn 8 milltir ond does fawr ddim gwaith dringo.

Mae gwahoddiad i bawb sy'n cerdded i fynd i gartref Dewi yn dilyn y daith, gan ei fod yn garedig iawn wedi cynnig gwneud panad a chacan, efo'r elw yn mynd i'r Ambiwlans Awyr.  Cofiwch ddod â phres efo chi felly.

Rhys Morgan Llwyd


Dydd Sadwrn 2 Tachwedd
Carnedd Llywelyn
9.15 - 9.30
Maes parcio Capel Curig y tu ôl i siop Joe Brown (SH 720582).

Dilyn y llwybr heibio Tal-y-waun at Faen Tri Chwmwd cyn codi’n serth i gopa Penllithrig-y-wrach, a thros Pen yr Helgi Du a Phen-y-waun Wen i gopa Carnedd Llywelyn. Yna i Fwlch Cyfryw-drum ac i lawr Craig Llugwy i ben isaf Ffynnon Llugwy a dilyn ffordd Dŵr Cymru i’r A5 a chroesi’r briffordd ger Helyg  i ddilyn y llwybr nol i Gapel Curig. Tua 20 km/12.5 milltir a 1320 m/4330’ o ddringo.

Eryl Owain


Dydd Sadwrn 9 Tachwedd
Moel Hebog
9.15 - 9.30
Maes parcio (talu) tu cefn i'r ysgol ger Gwesty'r Goat (SH 589481) yng nghanol Beddgelert.

Anelu am Foel Hebog, gyda phosibilrwydd o ymestyn y daith dros gopaon Moel yr Ogof a Moel Lefn hefyd, yn ôl yr amgylchiadau.
  
Iolo Roberts


Nos Sadwrn 9 Tachwedd
Cyfarfod a Chinio Blynyddol
Gwesty’r Afr, Beddgelert


Cynhelir y Cyfrafod Blynyddol am 5.30, yn dilyn y daith yn ystod y dydd ar Foel Hebog, gyda'r Cinio Blynyddol am 7.30.
Nodwch y dyddiad rŵan ac ystyriwch o ddifri' wneud ymdrech i fod yn bresennol.
Mae'n bwysig cael cefnogaeth i'r Cyfarfod Blynyddol fel bod penderfyniadau'n adleywrchu barn a dymuniad ein haelodau ac mae'r Cinio'n gyfle gwych i gwrdd a sgwrsio â chyd-aelodau. 

Iolo Roberts7


Dydd Mercher 13 Tachwedd
Cwm Llan a Craflwyn
1015 10.30
Man cychwyn Llwybr Watkin, gyferbyn â maes parcio Pont Bethania (parcio am ddim yn y gilfan tu draw i’r caffi)

O Bont Bethania, i fyny Cwm Llan, ar draws i Graflwyn ar lwybr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lle cysgodol i gael cinio yng Nghraflwyn os bydd angen. Yn ôl ar hyd glan Llyn Dinas. Rhyw dair awr a hanner o gerdded. Llwybrau da ond ambell i le gwlyb. Paned ym Meddgelert wedyn.

Raymond a Sue Griffiths


Dydd Sadwrn 16 Tachwedd
Taith Ardal Rhydaman

Manylion i ddilyn.

Guto Evans


Dydd Sadwrn 16 Tachwedd
Beicio Mynydd – Cylchdaith Tal y Fan
10.00
Pensychnant (SH 754769).

Bwlch y Ddeufaen, Garreg Fawr, Llanfairfechan, Cylch Cerrig Penmaenmawr – 24 km/15 milltir

Arwel Roberts 


Dydd Sul 24 Tachwedd
Pedol Cwellyn
8:30 - 8:45
Maes parcio gorsaf y trên bach yn Waunfawr ger Tafarn Snowdonia (parcio am ddim ond dim toiledau).

Cerdded o Waunfawr i fyny Moel Smytho ac ymlaen i ben Mynydd Mawr. Yna lawr i Planwydd ac i fyny i Fwlch Maesgwm a thros y Moelydd – Goch, Gron ac Eilio – yn ôl i Waunfawr. 
Taith o 14 milltir, 4300 troedfedd o ddringo a tua 8-9 awr. Bydd pawb angen torch pen!  Peint ac ella swper yn Nhafarn Snowdonia i orffen y diwrnod

Dwynwen Pennant


Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr
Gogledd y Carneddau
9.15 - 9.30
Ger Y Bedol yn Nhal-y-bont (SH 766689) i rannu ceir ar gyfer parcio cyfyngedig ym Mwlch y Gaer (SH 743692) uwch ben Llanbedr-y-cennin.

Pen y Gadair, Pen y Castell, Drum, Foel Fras, Foel Grach, Melynllyn, Cwm Dulyn ac yn ôl ar hyd Pant y Griafolen. 16 km/10 milltir.

Arwel Roberts 


Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr
Taith Ardal Grughywel / Cinio yn y Bear
9.30
Maes parcio Crughywel, y tu ôl i’r ganolfan ymwelwyr (SO 218184)

Manylion pellach i ddilyn
 
Richard Mitchley


Dydd Mercher 18 Rhagfyr
Ardal Llanfairpwll

10.00
Maes parcio yng nghanol Llanfairpwll - SH528716.
[O bont Britannia, y maes parcio ar y dde wedi garej Volvo, yr ysgol gynradd a rhes o 'fynglos'.]

Cychwyn yn Llanfairpwll. Taith rhyw 6/7 milltir ar yr arfordir ar hyd y Fenai, heibio Pwllfanog cyn mynd am y tir, a heibio Bryn Celli Ddu a Llanddaniel (Dyma'r daith enillodd iddo'r wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd).
Paned yn ôl yn Llanfair.

John Parry

Mae Nia Wyn wedi gwneud trefniadau am ginio Nadolig yn y Penrhos, Llanfairpwll, ar ddiwedd y daith:
Cinio 1.15


Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr
Moel Siabod
9.15 - 9.30
Bryn-y-glo ger Pont Cyfyng (SH 735571). Gellir parcio’n ddi-dâl mewn cilfannau ar ymyl yr A5 ar ochr Betws-y-coed o’r bont (arwydd taliad o £5 ym maes parcio Bryn-y-glo)

Cyfle i osgoi siopa ’Dolig ar ddydd byrraf y flwyddyn! Dilyn y llwybr heibio ffarm Rhos am Lyn y Foel a fyny Daear Ddu (peth sgramblo rhwydd ond dewisol yn bosib yma) i’r copa.

Raymond Wheldon-Roberts


Dydd Sadwrn 4 Ionawr 2020
Yr Wyddfa
9.30 - 9.45
Maes parcio Pen-y-pas – amser i’w gadarnhau yn ôl amseroedd bysiau.

Taith draddodiadol y clwb i gopa’r Wyddfa ar ddechrau blwyddyn newydd. Pedol yr Wyddfa neu dewis o lwybrau yn ôl amgylchiadau a dymuniad y cerddwyr. Dewch â dillad ac offer mynydda gaeaf yn y gobaith y bydd eu hangen!

Eryl Owain


Dydd Mercher 22 Ionawr 2020
Rowen i Gonwy
9.45 - 10.00
Maes parcio Mount Pleasant yng Nghonwy (ger waliau’r dref a’r Castlebank Hotel) – SH 778 775. Tâl £4.50. Symud rhai ceir i Rowen.

O Rowen heibio Hen Eglwys Llangelynin ac yna dilyn Llwybr Gogledd Cymru dros Fynydd y Dref yn ôl i Gonwy. Tua 6.5 milltir.

Dilys ac Aneurin Phillips 01492 650003 craflwyn@globalnet.co.uk  -


RHAGYSBYSIAD - TEITHIAU'R ALBAN 2020

15 - 22 Chwefror Crianlarich  lle i 16
Mae 8 llofft twin (ystafelloedd dwbl ar gael os dymunwch) wedi eu llogi’n amodol yn y Crianlarich Hotel am £220 y pen am wely a brecwast. Mae swper ar gael am £12 y noson ar ben hynny. Mae’r rhain yn brisiau arbennig i grŵp; os am fanteisio arnynt, byddai’n ofynnol archebu am saith noson. Gall unrhyw un sydd am aros am lai na saith noson wneud eu trefniadau eu hunain efo’r gwesty. Os na fyddech eisiau archebu cinio nos am wythnos gyfan, byddai’n bosib archebu ar y diwrnod os am ‘fwyta i mewn’.

Mae Crianlarich yn ganolfan hwylus, yn agos at Ben Hope a Ben Lui a nifer fawr o fynyddoedd gwych eraill – 30 Munro o fewn ugain munud i’r pentref!  

Gall yr amgylchiadau gaeaf yn yr Alban fod yn heriol felly rhaid wrth ddillad ac offer pwrpasol. Er bod angen profiad blaenorol o fynydda cyffredinol, a pharodrwydd i wynebu amodau anodd, mae taith y clwb yn cynnig cyfle i ymestyn profiad a datblygu sgiliau o ran mynydda gaeaf.

Rhaid talu wrth archebu lle. Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os oes rhaid canslo am unrhyw reswm. Cysylltwch cyn gynted â phosib ac erbyn 1 Rhagfyr fan bellaf.

Ffurflen archebu YMA

23 - 30 Mai Hostel Ratagan yng Nglen Shiel  lle i 20
Mae 20 o lefydd wedi eu llogi’n amodol yn Hostel Ratagan ar lan Loch Duich tua 2.5 milltir o bentref Shiel Bridge. Y pris fydd £160 am saith noson. Bydd yn bosib (yn nes ymlaen) archebu brecwast am £6 y noson yn ychwanegol. Bydd amrywiaeth o ystafelloedd ar gael, gan gynnwys nifer cyfyngedig o lofftydd i ddau.

Mae Glen Shiel wedi ei amgylchynu gan resi o fynyddoedd gwych, gyda naw Munro i’r de a deuddeg i’r gogledd o’r dyffryn – ac mae Ynys Skye o fewn cyrraedd.

Rhaid talu wrth archebu lle. Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os oes rhaid canslo am unrhyw reswm.

Ffurflen archebu YMA



CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058    arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com