HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Archif Gorffennaf 2010 i Tachwedd 2010

Dyddiad
2010
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Gorffennaf
10
9.15
9.30
Ewch i CG: SN 917 232, sef ger corlan ar y ffordd fach o Lyn Crai i Heol Senni, tua hanner ffordd rhwng Penwaundwr a'r pentref.
Y BANNAU CANOL O HEOL SENNI
Pedol i gynnwys Bannau Frynych (drwy Gwm Du), Dringarth, Llia, Nedd a Bwlch Chwyth.
Tua 14 milltir (gorffen tua 4.30 - 5.00)
Eryl Pritchard
Mercher
Gorffennaf
14
10.00
10.15
Tu allan i’r Galeri, Caernarfon
CG: SH 479 631
C’NARFON
Taith hamddenol i rannau dirgel o’r Dre, co!
Alun Roberts
Sadwrn
Gorffennaf
17
10.15
10.30
Maes parcio top,
Nant Gwrtheyrn
CG: SH 353 440
YR EIFL
Pedol i fyny at Dre’r Ceiri tros yr Eifl ac i lawr i Nant Gwrtheyrn
– paned neu beint?
Maldwyn Roberts
Sadwrn
Gorffennaf
17
10.00
 
Ardal ‘Twilight
Rock Farm
CG: SJ 218 453
DRINGO – EGLWYSEG, LLANGOLLEN
Dringen sengl (Singlepitch)
Cysylltwch ymlaen llaw i drefnu offer
Arwel Roberts
Sadwrn
Gorffennaf
31
9.30
9.50
Maes parcio’r Parc,
Nant Peris (tâl)
CG: SH 606 582
PEDOL YR WYDDFA
Y Bedol gyfan
Bws Sherpa 9.50 i Ben y Pass,
a bws yn ôl
George Jones
Mawrth
Awst
3
9.45
10.00
Ger prif fynedfa’r
Eisteddfod
Glyn Ebwy
TAITH O FAES YR EISTEDDFOD
Cerdded y bryniau o gylch
tre’r Eisteddfod gan fwynhau
chydig o’r hanes lleol
Rhys Dafis
Gorff 31 hyd Awst 7
STONDIN MYNYDDA AR FAES YR EISTEDDFOD
Stondin ar y cyd â Chyngor Mynydda Prydain, Bwrdd Hyfforddi Arweinyddion Cymru, Partneriaeth Awyr Agored, Clwb Dringo De Cymru a ninne!
Cysylltwch â Rhys Dafis (uchod) os am helpu ar y stondin.
Sadwrn
Awst
14
11.00
11.15
Gorsaf Beddgelert
i ddal tren 11.30
trwy Fwlch Aberglaslyn
i orsaf Pont Croesor i gyrraedd am 12.00
MOEL DDU a MOEL HEBOG
Cerdded i Brenteg yna i fyny
Moel Ddu a Moel Hebog
ac i lawr i Feddgelert
Swper wedyn?
Clive James

Prynwch Gerdyn Mantais
am £15 (am 5 mlynedd)
ymlaen llaw o orsafoedd
Caernarfon, Porthmadog
neu Blaenau
i gael gostyngiad o 66%!
Sadwrn
Awst
28
9.15
9.30
Maes parcio’r Parc
Rhyd Ddu (tâl)
CG: SH 913 522
CRIB NANTLLE
Y grib gyfa’ o Ryd Ddu i Nebo
Tacsi Huw yn ôl i Ryd Ddu (tâl bychan)
Mark Wynn Jones
Sadwrn
Medi
4
10.00
 
Man parcio
ger Caffi Tanygrisiau
CG: SH 681 449
DRINGO – TANYGRISIAU
Amlddringen (Multipitch)
Cysylltwch ymlaen llaw i drefnu offer
Myfyr Tomos
Sadwrn
Medi
11
9.15
9.30
Pete’s Eats,
Llanberis
Parcio ger y llyn
CG: SH 577 605
MOELYDD YR WYDDFA
Panad cyn cychwyn –
Moel Eilio, Foel Gron, Goch, Cynghorion– paned i orffen
yng nghaffi Stephen
Morfudd Thomas

Sadwrn
Medi
11
9.15
9.30
Maes parcio traeth
Llanilltyd Fawr
CG: SS 957 674
CLOGWYNI BRO MORGANNWG
O Lanilltyd Fawr i Gastell Ogwr.
Tua 12 milltir.
Un ffordd yn unig – trefnir ceir
Iestyn Davies

ac Aled Morgan
Mercher
Medi
15
10.15
10.30
Maes parcio
pellaf Porth Amlwch
CG: SH 453 936
PORTH AMLWCH A MYNYDD PARYS
Ar hyd yr arfordir i Laneilian,
yna ar draws y caeau i
weld gweithfeydd copr Mynydd Parys
Gwen Richards
Sadwrn
Medi
18
10.00
Man parcio
ar yr hen lôn,
Nant Gwynant
CG: SH 657 538
DRINGO – SIMDDE LOCKWOOD
Lot o hwyl! Addas i bawb.
Cysylltwch ymlaen llaw os angen offer
Arwel Roberts
Sadwrn
Medi
25
9.00
9.15
Maes parcio
cyn cyrraedd Llyn Eigiau
CG: SH 731 663
PEDOL CWM EIGIAU
Pen Llithrig y Wrach, Carnedd Llewelyn, Gledrffordd,
Cefn Tal y Llyn Eigiau.
10.5 milltir.
Gellir rhannu ceir o’r lôn fawr ymlaen
Cemlyn Jones
Sadwrn
Hydref
2
10.00
Caffi Eric, Tremadog
CG: SH 575 405
DRINGO – TREMADOG
Amlddringen (Multipitch)
Cysylltwch ymlaen llaw i drefnu offer
Jeremy Trumper
Sadwrn
Hydref
9
10.00
10.15
Gwesty’r Beuno,
Clynnog Fawr
CG: SH 415 497
GYRN DDU, GYRN GOCH
A BWLCH MAWR
Cychwyn o Lanaelhaearn,
tros y topiau ac i lawr
am wydriad yn y Beuno?
Dylan Huw
Sadwrn
Hydref
9
9.15
9.30
Maes parcio
ger Castell y Dryslwyn
CG: SN 553 204
HARDDWCH DYFFRYN TYWI
Taith hamddenol.
Tua 10 milltir.
Alun Voyle a Pete Evans
Mercher
Hydref
13
10.00
10.15
Maes parcio
ar y B5106
tros y bont yn Llanrwst
CG: SH 798 615
PARC COEDWIG GWYDYR
Taith hamddenol heibio adfeilion mwyngloddio’r goedwig
Gwen Aaron
Sadwrn
Hydref
16
9.30
9.45
Blaenau Dolwyddelan,
ger Pont Rufeinig
CG: SH 704 518
DRINGO – CRAIG Y TONNAU
Dringen sengl – addas i bawb
Cysylltwch ymlaen llaw i drefnu offer
Anita Daimond
Sadwrn
Hydref
23
9.15
9.30
Maes parcio,
Stryd y Farchnad,
Rhuthun
BRYNIAU CLWYD
O Ruthun heibio i Foel Eithinen,
Moel Fenlli, Moel Fammau
ac i lawr yn ôl i Ruthun
Richard Roberts
Sadwrn
Hydref
30
9.30
9.45
Maes parcio,Croesor
CG: SH 631 446
DRINGO – YR ARDDU
Lliwedd Fechan
Cysylltwch ymlaen llaw i drefnu offer
Myfyr Tomos
Sadwrn
Tachwedd
13
Oakley Arms
Maentwrog
Cyfarfod Blynyddol Y Clwb
Cinio a cyflwyniad i ddilyn
Maldwyn Roberts

Teithiau Eraill a Manylion Pellach

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â maldwynperis@tiscali.co.uk
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Clive James …
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo (yn y Gogledd) ar greigiau tu allan gyda’r nos (Iau) yn Ogwen yn ailgychwyn ddechrau Medi.
Cyfarfod yng Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com
ac i gael eich cynnwys ar restr ebostio dringo.
Trefnir cyfleoedd dringo hefyd yn y De. Bydd gwybodaeth eto am y rhain ar wefan y Clwb. a hysbysir aelodau’r De drwy ebost.

Partneriaeth Awyr Agored
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php

Penwythnos Bro Gŵyr
Bwriedir aildrefnu’r penwythnos yma yn ystod Mai 2011.

.