{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Ionawr-Ebrill 2023

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'

Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA



Llun 2 Ionawr
Taith Calan -Yr Wyddfa
9.30
Cyfarfod ym maes parcio Pen-y-Pass i gychwyn cerdded am 9.30, wedi i’r bysiau o Fetws-y-coed (9.05), Capel Curig (9.12) a Phen y Gwryd (9.20) ac o Feddgelert (8.55) gyrraedd am 9.25 a 9.20.
Dewis o lwybrau i’r copa, llwybr PyG neu dros Crib Goch.

Eryl Owain


Mercher 4 Ionawr
Dolwyddelan i Fetws-y-coed
9.40 9.55

Oherwydd y streic, cyfarfod o flaen gorsaf drenau Betws-y-coed am 9.40 er mwyn dal y bws 9.55 i Ddolwyddelan.

Cerdded drwy'r goedwig heibio Beudy Brynbugelyn a thros yr afon Ystumiau at Sarn Offeiriad i dir agored o dan Moel Siabod ac i lawr i Dŷ Hyll. Yna dychwelyd i Fetws-y-coed ar y llwybr ger yr afon Llugwy.  Golygfa dda o'r Rhaeadr Ewynnol a Phont y Mwyngloddwyr. 12 km.

Arwel Roberts


Sadwrn 14 Ionawr 
Y Moelwynion
9.15 9.30
Maes parcio Dol Rhedyn, Tanygrisiau (SH 683454).

Cerdded i Gwmorthin a thros gopaon Moel-yr-hydd , Moelwyn Mawr, Craig Ysgafn a Moelwyn Bach. Taith o tua 11km ac esgyniad o tua 700 m.

Arwel Roberts


Sadwrn 21 Ionawr
Capel Curig i Ben-y-Pass           
9.00 9.15
Maes parcio y tu ôl i siop Joe Brown (SH 72055 58247) yng Nghapel Curig.

Dilyn y Llwybr Llechi am rhyw 400 medr cyn troi i heibio Creigiau'r Gelli. Cerdded dros Gefn y Capel at Bwlch Goleuni a dringo’n serth at gopa Gallt yr Ogof. Ymlaen wedyn dros y Foel Goch a'r ddwy Glyder cyn gostwng am lannau Llyn Cwmffynnon a gorffen y daith ym Mhen-y-Pass. Dal bws Sherpa yn ôl i'r man cychwyn. Taith 8 milltir gyda 990 m o ddringo.  

Stephen Williams 


Sadwrn 4 Chwefror
Yr Wyddfa a Moel Cynghorion
9.00 9.15
Maes parcio Llyn Cwellyn. SH564550.

Cerdded ar hyd llwybr Cwellyn i Gwm Clogwyn ac yna dringo i ymuno â llwybr Rhyd Ddu. Ymlaen dros yr Wyddfa a Moel Cynghorion yn ôl at Cwellyn. 10 milltir/ 16 km, tua 3,600’/ 1100 m o esgyn.

Elen Huws


11–18 Chwefror
Taith Aeaf yr Alban 2023
Gwesty’r Crianlarich Best Western Hotel fydd llety’r clwb unwaith eto ar gyfer wythnos o fynydda gaeaf yn yr Alban. Mae’r pentref yn ganolfan hwylus iawn ar gyfer nifer fawr o fynyddoedd dros 3,000’ ac mae llwybrau cerdded tir is, e.e. The West Highland Way yn agos hefyd.

Dyddiad cau ar gyfer y daith oedd 30 Tachwedd ond mae croeso i aelodau wneud eu trefniadau llety eu hunain ac ymuno â’r teithiau.

Gareth Everett Roberts


Sadwrn 18 Chwefror
Gwaith mango'r Moelfre a'r Foel Wen, Cwm Nantcol
9:15  9:30
A
r Ben Alltfawr SH615 258 (Mae 3 giat o Ddyffryn Ardudwy a hefyd o Lanbedr, felly mae croeso i chi rannu ceir o Dyddyn Llidiart).

O'r maes parcio, mynd at lwybr Taith Ardudwy i waelod y Moelfre ond ei adael i ddilyn wal y ffridd i fyny am copa (mae darn serth tuag at y diwedd). Disgyn lawr i ddilyn yr hen waith mango (manganese) i Gwm Nantcol. Dilyn y ffordd am sbel wedyn i groesi'r afon Nantcol cyn dringo’n serth am ychydig cyn i'r llwybr sy'n dilyn y gwaith mango wastadhau. Dod lawr i'r ffordd wrth Gefn Uchaf a dilyn y llwybr o Benisa'r Cwm yn syth yn ôl at y ceir.
Tua 8 milltir, oddeutu 6 awr o gerdded hamddenol ac ychydig dros 2,000' o ddringo.

Eirlys Wyn Jones


Sadwrn 18 Chwefror
Taith Gylch Talybont
9.15 9.30

Cychwyn o ben gogleddol Cronfa Talybont (CG i’w gadarnhau). Dilyn ffordd-y-bannau/llwybr Tâf ochr dwyreinol Glyn-collwn, Craig-y-fan ddu, Waun-rydd, Carn-pica a dychwelyd at y cychwyn. Pellter: tua 17 cilometr (10.6 m) Esgyniad: tua 600 m. 

Bruce Lane


Mercher 22 Chwefror
Morfa Nefyn, Edern a Phorthdinllaen
9.45 10.00
Maes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Morfa Nefyn CG: 282 407. Bydd aelodau yn gallu parcio am ddim wrth sganio cardiau aelodaeth y Clwb.

Cychwyn ar hyd llwybyr yr arfordir i gyfeiriad Nefyn cyn troi tuag at y tir i ddilyn hen lwybrau a ffyrdd cul o gwmpas y pentref i gyfeiriad Edern gan oedi chydig yn Eglwys Edern a cherdded o gwmpas y pentref ac yn ôl at yr arfordir unwaith eto. Cerdded trwy ddau borth bychan cyn cyrraedd Aber Geirch ac yna o gwmpas y golff a thrwyn Porthdinllaen at Orsaf y Bad Achub. Ymlaen ar hyd y glannau tuag at Borthdinllaen ac yn ôl ar hyd y tywod i Forfa Nefyn.
13 km / 8 milltir
Dylem fod yn ôl rhwng 3.00 a 4.00 yn dibynnu ar y sgwrsio!

Rhiannon a Clive James


Sadwrn 25 Chwefror
Pedol Marchlyn
9.15  9.30 Cyfarfod yn y gilfan ar ochr y ffordd sy’n arwain at Lyn Marchlyn.

Cerdded i gopaon Carnedd y Filiast a Mynydd Perfedd. I lawr i Fwlch y Brecan a dringo copaon Elidir Fawr ac Elidir Fach. Taith o tua 7 milltir ac esgyniad o 2500 o droedfeddi.

Gethin Rowlands

Sadwrn 4 Mawrth
Y Carneddau o Fethesda
8.45  9.00
Cyfarfod ym maes parcio Pantdreiniog – i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen (SH 6250 6678).

Cerdded trwy Gerlan i gyfeiriad Cwm Caseg ac anelu am drwyn gorllewinol Yr Elen. Ymlaen i gopaon Carnedd Llywelyn, Foel Grach a Charnedd Gwenllian cyn dilyn mân gopaon Yr Aryg a Bera Bach a gorffen yn Nhafarn y Siôr. 

Dafydd Thomas


Sadwrn 11 Mawrth ***GOHIRIWYD
Cylchdaith Epynt
9.15 9.30

Cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr ger Penre Dolau Honddu ar y B4519 i’r gogledd o Upper Chapel. SN993 437.

Tua 11 milltir o daith.

Guto Evans 07824 617131 guto.evans@btinternet.com


Sadwrn 18 Mawrth
Rhyd Ddu i Dremadog dros gopaon Cwm Pennant a Chwm Ystradllyn
8.15 
Cyfarfod yn Nhremadog am 8:15. Parcio wrth ymyl yr hen londri, y lle parcio ar y chwith wrth fynd allan o Dremadog i gyfeiriad Beddgelert SH 564 402 (dim toiledau). Dal bws o Sgwâr Tremadog i Rhyd Ddu (gadael 8:30/cyrraedd 9:15).

Cerdded o Rhyd Ddu i Fwlch y Ddwy Elor, dros gopaon Moel Lefn, Moel yr Ogof, Moel Hebog, Bryn Banog, Moel Ddu a Mynydd Gorllwyn ac yn ôl i Dremadog lawr Cwm Bach. Taith 11 milltir efo 4000 troedfedd o ddringo dros dir garw yn aml heb lwybrau. Taith o tua 10 awr.

Dwynwen Pennant


Mercher 22 Mawrth
Cwmpasu Moel Wnion
Amser i'w gyhoeddi

Maes parcio canol Bethesda. Troi gyferbyn â Neuadd Ogwen (tua'r chwith o Fangor). Dilynwch yr arwydd Llyfr-gell ond peidiwch troi i'r chwith ac ewch yn syth i fyny'r allt LL57 1DT [SH623667]

Cerdded cymedrol, llwybrau ucheldir, camfeydd, bosib yn wlyb. 6 milltir.

Janet Buckles


Sadwrn 25 Mawrth
Glyder Fawr, Y Garn a Foel Goch
9.00  9.15
Cyfarfod o flaen y ganolfan ger Pont Pen-y-benglog am 9 a.m. (SH 649 603).  Efallai y bydd rhai, oherwydd problemau parcio yn Ogwen, yn dewis parcio ynghanol Bethesda a dal y bws T20 sy’n gadael am 08.45.

Cerdded i Gwm Bochlwyd ac yna sgrialu cymharol hawdd (gradd 1) i fyny’r Gribin at Fwlch y Ddwy Glyder a cherdded i gopa Glyder Fawr. Lawr i Lyn y Cŵn ac yna fyny eto i gopaon y Garn a Foel Goch. I lawr y Llymllwyd i Gwm Cywion ac yn ôl i Bont Pen-y-benglog. Tua 7 milltir ac esgyniad o 3500 o droedfeddi.

Richard Roberts


Sadwrn 1 Ebrill
Arenig Fawr a Moel Llyfnant
9.15     9.30
Cyfarfod a pharcio ger Chwarel Arenig (SH 830392), wedi troi o ffordd Traws i Bala i’r ffordd gul sy’n arwain at Arenig a Llidiardau.

Taith i gopa Arenig Fawr heibio Llyn Arenig Fawr ac yna yn ein blaenau i Foel Llyfnant. Disgyn wedyn i Amnodd Bwll a gwneud ein ffordd yn ôl ar hyd llwybr yr hen rheilffordd. Tua 16 km/10 milltir a 870m/2854’ o ddringo. 

Iolo Roberts ioloroberts289@btinternet.com


Sadwrn 1 Ebrill
Pedol Cwm Llwch
9.15 9.30

Maes parcio bach (S0 025 248) 3 milltir i’r de o Aberhonddu (troi i ffwrdd o’r heol fawr yn Libanus neu heol Bailhelig, gan droi  wrth yr Eglwys yn Llanfaes ar gyrion Aberhonddu)

Dechrau yn Cwm Gwdi. Cefn Cwm Llwch, Pen y Fan. Tua 7 milltir. Mannau serth wrth gyrraedd copa Pen y Fan.

Dewi Hughes 07909 930427   dewihughes1@btinternet.com


Mercher 12 Ebrill
Ardal Coed Cymerau
1015 10.30
Arosfan ar yr A496 rhwng Maentwrog / Rhyd y Sarn a Blaenau ffestiniog (SH694431).

Cerdded o gwmpas Parc Cymerau Isaf, Rhyd y Sarn, Dduallt Coediog yr holl ffordd i'r Oakley Arms (bydd 3 char yno i gludo gyrrwyr yn ôl at eu ceir. Llwybr cul, anwastad a serth. 7 milltir.

Mae'n bwysig cysylltu â'r arweinydd ymlaen llaw er mwyn trefnu'r drafnidiaeth.

John Parry
07891 835576 llwynderw@yahoo.co.uk


Sadwrn 15 Ebrill ****GOHIRIWYD tan yr haf
Moel Meirch a Cnicht
9.15 9.30
Maes Parcio Pont Bethania - SH 508628.

Cychwyn hamddenol i fyny heibio Plas Gwynant a lôn Nantmor am Moel Meirch a phasio’r bwlch o dan y Foel. Yn ôl lawr i Lyn Edno cyn mynd ar hyd yr Ysgafell Wen am gopa’r Cnicht. Yn ôl i Bont Bethania drwy fynd lawr am Gelli Iago a throsodd i Lyn Dinas. Esgyniad o dros 660 m a phellter o 18 km.

Siân Shakespeare
  07890 613933    sianetal@hotmail.com


Sadwrn 22 Ebrill
Elidir Fawr, Foel Goch a’r Garn
8.45 9.00
Maes Parcio Nant Peris.

Cerdded yn serth i gopa Elidir Fawr, croesi  Bwlch Marchlyn ac i ben Foel Goch ac yna ’mlaen i’r trydydd copa, y Garn. Disgyn i lawr i Lyn y Cŵn a dilyn y llwybr trwy Cwm Padrig yn ôl i Nant Peris. Tua 13 km/8 m efo 1340 m/3606’ o ddringo.

Dylan Evans  07922 183208   dylanllevans@btinternet.com


Sadwrn 22 Ebrill
Taith yn y de

Manylion i ddod

Alison Maddocks 07796037114 alisonmaddocks@gmail.com


Sadwrn 29 Ebrill
Bryniau Clwyd
9.45 10.00
Cyfarfod ym maes parcio Bwlch Pen Barras.

Dilyn llwybr Clawdd Offa i gopaon Moel Famau, Moel Dywyll ac ymlaen i gopa Moel Arthur lle mae bryngaer sy’n werth ei gweld. Dilyn llwybr ar hyd godrau’r bryniau yn ôl i’r maes parcio.
Taith o 10 milltir ac esgyniad o tua 2,400 o droedfeddi.

Sw a Richard Roberts  07738856174  llanrug1956@gmail.com


Llun 1 Mai
Taith Flasu'r Clwb ar Foel Siabod
9.00 9.15
Maes parcio Pont Cyfyng, Capel Curig (SH734571)

11 km o gerdded ag esgyniad o 800 m. Manylion pellach: YMA

Stephen Williams 07772 546820 (ffôn/SMS/WhatsApp) Llechid230271@gmail.com


Taith i’r Alban 27 Mai - 3 Mehefin
Mae’r Clwb yn trefnu taith i ardal Roy Bridge, ychydig filltiroedd i’r gogledd ddwyrain o Fort William. 
Mae llety wedi’i drefnu ar gyfer 24 o bobl yn hostel Aite Cruinnichidh  https://highland-hostel.co.uk 
Mae gan yr hostel gyfleusterau paratoi a choginio bwyd ac mae ’na dafarndai nid nepell o’r safle.  Mae’r siop agosaf tua 5 milltir o’r safle a thref Fort William tua 12 milltir oddi yno.

Dyma ragor o wybodaeth:

Mae yna 3 lloft yn cysgu 4 person. (12 person)
1 Lloft yn cysgu chwech person. (6 person)
1 Ystafell twin. (2 person)
1 Ystafell twin/dwbl. (2 person
1 Dwbl en-suite. (2 person)

Costau fesul noson:
Dorm - £24 y noson (Cysgu 4 neu 6)
Twin - £27.50 (Cysgu 2)
Dwbl fach - £30 (Cysgu 2)
Dwbl en-suite £33 (Cysgu 2)

Mae’r pris yn cynnwys:
· dillad gwely
· cawodydd poeth
· cegin /ystafell hunanarlwyo â chyfarpar da. 
· ystafell fyw llai gyda llyfrgell fechan a dewiso gemau i blant ac oedolion.
· ystafell sychu dda 
· Lle i barcio ceir 
· gardd fawr (rhan ohoni i westeion i ymlacio ynddi) 
· mae’n bosib cloi eich offer os oes angen.

Mae amser yn brin, felly, os ydych chi’n bwriadau mynd ar y daith, cysylltwch â Keith Roberts – keithtan@hotmail.co.uk  neu +44 7789 911437 erbyn hanner dydd, ddydd Llun, 6 Mawrth. Bydd rhaid talu’n llawn am y llety erbyn hynny hefyd.

Taith ydy hon i aelodau’r Clwb yn unig.

Yn anffodus, nid ydy’r Clwb mewn sefyllfa i brosesu unrhyw ad-daliadau mewn achosion lle mae pobl yn methu mynd ar y daith a hwythau eisoes wedi talu. Felly, mi fasa’n syniad prynu yswiriant gwyliau.



CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com