HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Archif Mawrth 2011 i Gorffennaf 2011

Dyddiad
2011
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.

Sadwrn Mawrth
5

9.15
9.30
Cyfarfod ger y gyffordd ym Mronaber
CG: SH 712 318
GWYNFYNYDD A CHRAIG Y PENMAEN
Taith hawdd ar lwybrau’r goedwig gan ymweld â gwaith aur Gwynfynydd, Pistyll Cain, Sarn Helen
Myfyr Tomos
Mercher Mawrth
9
10.15
10.30
Maes parcio Croesor
CG: SH 631 447
CNICHT
Gweddol serth i’r copa, dibynnu ar y tywydd wedyn.
Tua 4 awr. Panad Caffi Croesor.
John Parry
Sadwrn Mawrth
12
9.15
9.30
Man parcio
CG: SH 561 389
GWELER YMA
DRINGO
MOEL Y GEST
Myfyr Tomos
Sadwrn Mawrth
12
9.15
9.30
Glan afon Sawdde i’r dwyrain o Landdeusant
CG: SN 798 239
BANNAU SIR GÂR
Ymarfer map a chyfeiriadu yn rhan o’r daith, o dan ofal Dai a Guto.
Angen map OL12 Gorllewin y Bannau (1:25,000) a chwmpawd!
Dai Thomas
Gwener i’r Sul
Mawrth
18-20
Amryw leoliad yn Llanberis
LLAMFF
Gŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis
Manylion YMA
Rhagor o fanylion ar eu gwefan: www.llamff.co.uk
Sadwrn Mawrth
19
9.30
9.45
Tu allan i’r Amgueddfa Lechi, Llanberis Cyf grid: SH 586 603
CHWAREL DINORWIG A’R ELIDIR Llwybr Llwynog i fyny drwy’r chwarel i gopa’r Elidir Fach, y Fawr ac i lawr Cwm Dudodyn. 10k. Panad i orffen. Taith fer, is os tywydd yn giami.
Morfudd Thomas a Bert Roberts
Sul
Mawrth
26
10.00
Trofan bws, Dinorwig Cyf grid: SH 590 611
DRINGO
LLECHFAEN DINORWIG
Arwel Roberts
Sadwrn
Ebrill
2
9.15
9.30
Pinnacle Cafe,
Capel Curig
YMARFER MAP A CHWMPAWD / GPS
Diwrnod hamddenol i hogi eich sgiliau darllen map neu drin eich GPS
Arwel Roberts

Sadwrn
Ebrill
9

9.15
9.30
Maes parcio
Blaen y Cwm
(yn y goedwig)
CG: SO 253 285
MYNYDD DU
Bal Mawr, Chwarel y Fan
uwchben dyffryn Ewyas
Tua 9 milltir
Emlyn Jones (Pens)
Sadwrn
Ebrill
9
10.00
Caffi RSPB, Ynys Lawd Cyf grid: SH 208 820
DRINGO
MYNYDD TWR

CAERGYBI
Kate Jones
Mercher
Ebrill
13
9.45
10.00
Parcio ar y ffordd gul o Gefnddwysarn
CG: SH 962 395
PEDOL FOEL GOCH
o dan gysgod Moel Cryniarth
Taith hamddenol
John Williams
Sadwrn
Ebrill
16
9.00
9.15
Ger tafarn y Vic,
Llanbedr i drefnu ceir
CG: SH 585 268
PEDOL CWM NANTCOL
Rhinog Fawr, Rhinog Fach a’r Llethr.
Taith hiiiir … …
angen safon ffitrwydd da!
Peint i orffen
Dylan Huw Jones
Sul
Ebrill
17
10.00
Maes parcio
Betws
CG: SH 790 568
DRINGO
CLOGWYN Y CYRAU

B y COED
Diwrnod hyfforddi
Anita Daimond
Sadwrn
Ebrill
30
9.15
9.30
Maes parcio ar y dde heibio'r Ponsonby Arms
CG: SJ 219 420
ARDAL LLANGOLLEN
Taith o ganol y dref at Gastell Dinas Bran cyn cerdded wedyn ar hyd erchwyn Clawdd Offa at Graig y Forwyn (Worlds End) ac yna troi yn ol i ddringo at greigiau Gwyn Trefor a throi am y dref ar hyd y gamlas
Taith o oddeutu tair milltir ar ddeg gymer oddeutu 6 awr
Nic Parry a Hywyn Williams
Sadwrn
Mai
7
10.00
Gorsaf Dolwyddelan
CG: SH 738 521
DRINGO
CARREG ALLTREM

Dringwyr profiadol yn unig
Arwel Roberts
Mercher,
Mai
11
9.45
10.00
Bws 10.00
o’r Parc, Porthmadog
neu
10.10
o’r Maes, Cricieth
Y LÔN GOED
Bws i Fryncir, i fyny Mynydd Cennin, ar hyd y LG, a bws yn ôl i Gricieth neu Port
Panad?
Arwyn Jones
Sadwrn
Mai
14
9.15
9.30
Maes parcio
ger yr afon yn Llandrillo
CG: SJ 035 371
Y BERWYN
AR DROED NEU AR FEIC

Taith gerdded tua 10 milltir i Gadair Berwyn neu taith feics mynydd tua 25m drosodd i Lanarmon
Llymaid (dim mins peis!) yn y Dudley i orffen.
Gareth a Gaynor Roberts
Sadwrn
Mai
14
10.30
Betws Garmon
CG: SH 535 576
DRINGO
CRAIG CWM DU

Trefnwch hefo Anita Daimond os am fenthyg offer
John Parry
Sadwrn
a’r Sul
Mai
20-22
Maes parcio
ger cei Porth Einon (tâl)
CG: ST 468 852
PENWYTHNOS
DRINGO/CERDDED
BRO GWYR

Lle i 26 aros yn Hostel YHA Porth Einon. £40.
Dewch am y dydd.
Gellir trefnu i wersylla hefyd os bydd yr hostel yn llawn.
Gweler manylion llawnach isod
Guto Evans
Sadwrn
Mai
28
O Benmachno
neu o
Groesor
O GROESOR I BENMACHNO
Y bwriad ydi cyfarfod ym Mhenmachno i drefnu ceir/bws mini i Groesor
Enwau erbyn nos Fawrth, Mai 24ain
Manylion llawn i ddilyn
Eryl Owain a Gareth Wyn
Sadwrn
Mehefin
4
9.15
9.30
Maes parcio’r Parc, Minffordd Cyf grid: SH 732 116
CADER IDRIS
Cader Idris a Tyrrau Mawr
(a Chraig y Llyn os oes rhai yn teimlo’n egniol)
ac i lawr i Lanfihangel y Pennant.
Cyfle i weld Castell y Bere
a chartref ac eglwys Mari Jones.
Iolyn Jones
Sadwrn
Mehefin
4
10.00
Maes parcio
Croesor
CG: SH 631 447
DRINGO
YR ARDDU

Addas i bawb
Myfyr Tomos
Sadwrn
Mehefin
11
9.15
9.30
Naw man cychwyn!
1af o Fangor a'r
9fed o Benygroes
TEITHIAU COFFA LLEW AP GWENT
Naw taith noddedig o gwmpas ffiniau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Eryri 2012
yr arian i Gronfa'r Eisteddfod
Gweler manylion llawnach isod
Alun Roberts
Mercher
Mehefin
15
Porth Meudwy
TAITH AR GWCH
O GWMPAS PEN LLŶN

Yn y bore bydd 11 o deithwyr yn gadael P Meudwy am Borth Dinllaen; yn y pnawn bydd cyfle i 11 o bobl eraill fynd yn ôl ar y cwch i BM
Y cyntaf i'r felin!
Cysylltwch â Haf am fanylion
Haf Meredydd
Sadwrn
Mehefin
18
10.00
Lôn uwchben Llanllyfni
CG: SH 495 510
DRINGO
CRAIG CWM SILYN
Jeremy Trumper
Sadwrn
Mehefin
25
9.15
9.30
Maes parcio'r Parc
Nant Peris
i ddal bws i Ben y Pass
BYLCHAU'R WYDDFA
Taith hir o amgylch yr Wyddfa
drwy'i bylchau a thros ei chribau
Paned neu beint i orffen
George Jones
Sadwrn
Gorffennaf
2
9.15
9.30
Bwlch y Gaer
(lle parcio cyfyng)
CG: SH 744 707
GOGLEDD Y CARNEDDAU
Pen y Gadair, Pen y Castell,
Drum, Foel Fras,
Carnedd Gwenllian …
rhan o Ŵyl Gerdded Conwy
Llion Thomas
Sadwrn
Gorffennaf
2
DRINGO
ROACHES, SWYDD STAFFORD

Taith undydd. Cysylltwch â Cliff am amser cychwyn
Cliff Matthews
Sadwrn
Gorffennaf
9
9.15
9.30
Cwrdd ger
Canolfan Hamdden
Pontardawe
CG: SN 723 036
FFORDD SANT ILLTUD
O Bontardawe i Afan Argoed
Tua 20 milltir!
Bruce Lane
Sadwrn
Gorffennaf
16
10.00
Creigiau Trefor
CG: SJ 234 432
DRINGO
CREIGIAU TREFOR
LLANGOLLEN

Dringen sengl – addas i bawb
Marion Hughes

Teithiau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr … cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Wnaiff y criw Mercher, y criw dringo a chriw'r De anfon manylion eu teithiau newydd ar gyfer rhaglen Gorffennaf – Hydref at Maldwyn erbyn dechrau mis Mehefin.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â maldwynperis@tiscali.co.uk
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â mi drwy e-bostio maldwynperis@tiscali.co.uk Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau!

PENWYTHNOS DRINGO A CHERDDED BRO GŴYR, Mai 20-22
Llogwyd hostel YHA Porth Einon. Mae lle i 26 aros, a chegin a chyfleusterau eraill.
Y gost yw £40 y pen am y penwythnos heb gynnwys bwyd.
Mae tafarn leol sy'n gwneud bwyd, a siop pysgod a sglodion.
Gellir trefnu lle i wersylla yn y pentref hefyd, os bydd yr hostel yn llawn.
Neu, wrth gwrs, dewch am y dydd (os felly, rhowch wybod erbyn 12 Mai).
Trefnydd: Guto Evans, guto.evans@btinternet.com 07824 617131

Sadwrn a'r Sul, Mai 21 a'r 22ain – 9.15 i gychwyn am 9.30
Cyfarfod yn y maes parcio ger cei Porth Einon. CG: ST 468 852
Dringo: amrywiaeth o ddringfeydd clogwyni i'r profiadol, ac i gychwynwyr dan oruchwyliaeth.
Cerdded: dewis o deithiau arfordir heb eu hail neu dros Gefn Bryn.
Tafarn a siop sglodion gerllaw, neu farbeciw gyda'r nos (Sadwrn) os bydd yn braf.

Mae Bro Gŵyr yn enwog am y dringo, y mwyafrif yn ddringen sengl, gydag amrywiaeth o rai caled a rhai haws ac addas i gychwynwyr.
Bydd llanw uchel ar y penwythnos yma, a'r penllanw yn gynnar yn y bore, felly bydd digon o gyfle i ddringo ar y clogwyni yn ystod y dydd.
Bydd Guto wedi paratoi llawlyfr ynglyn â graddfa'r dringfeydd, a bydd offer dringo'r Clwb ar gael i'w fenthyg.
Ceir llawer o lwybrau diddorol yn yr ardal hefyd, yn fryniau ac arfordir, a bydd cyfle i fynd i Ben Pyrod (Worm's Head) gan fod y trai mor isel, neu Burry Holm gyda'i oleudy haearn (yr un olaf yn Ewrop). Bydd mwy o wybodaeth i'r rhai sy'n dod yn nes at yr amser.

I sicrhau lle i aros, rhowch eich enwau a manylion cyswllt i Guto os gwelwch yn dda. Mae angen i'r Clwb dalu'r YHA ddeufis
ymlaen llaw. Os am ymuno yn y gweithgareddau, ond ddim am aros, rhowch wybod i Guto erbyn nos Fercher 12 Mai, gan nodi pa
weithgaredd yr hoffech ei wneud.

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534, Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Anita Daimond ar 01492 600414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.



TEITHIAU COFFA LLEW AP GWENT
SADWRN MEHEFIN 11eg, 2011

Bydd Clwb Mynydda Cymru yn trefnu taith gerdded noddedig arbennig o gwmpas ffiniau ardal Eisteddfod yr Urdd 2012 er cof am Llew ap Gwent – roedd yr Urdd yn un o'r gwerthoedd Cymreig hynny oedd yn agos at ei galon – a bydd yr holl arian a gesglir yn mynd i'ch Pwyllgor Apêl Lleol neu i gronfa ganolog Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Eryri 2012.

CERDDED FFINIAU'R EISTEDDFOD
9 taith yn cychwyn am 9.30 y bore ar Fehefin 11, 2011
Taith 1. PORTH PENRHYN, BANGOR i ABERGWYNGREGYN. 10 milltir
Arweinydd: i'w drefnu
Taith 2. ABERGWYNGREGYN (maes parcio ger y bont) i OGWEN. 11 milltir
Cerddwyr profiadol yn unig
Arweinyddion: George Jones (01286) 672376 a Maldwyn Roberts (01286) 880997
Taith 3. OGWEN (ochr Bethesda o'r llyn ger y caffi) i RYD DDU. 10 milltir
Cerddwyr profiadol yn unig
Arweinyddion: Eryl Owain (01690) 760335 a Gareth Wyn Griffith (01690) 760332
Taith 4. RHYD DDU (Maes parcio'r Parc Cenedlaethol) i BORTHMADOG. 11 milltir
Cerddwyr profiadol yn unig
Arweinydd: Gwilym Jackson (01492) 582227
Taith 5. PORTHMADOG (Maes parcio ger Wilkinsons) i LANBEDROG. 17 milltir
Taith hir. Gallwch ymuno a'i gadael fel y mynnwch.
Arweinyddion: John Parry (01766) 513869 a Iolyn Jones (01341) 241391
Taith 6. LLANBEDROG (Maes parcio'r Ymdd. Genedlaethol) i ABERDARON. 16 milltir
Arweinyddion: Anet Thomas (01758) 712980 a Rhiannon Jones (01286) 674806
Taith 7. ABERDARON (Y Sgwar) i NEFYN. 16 milltir
Taith hir ond difyr
Arweinyddion: i'w drefnu
Taith 8. NEFYN (wrth y Nanhoron Arms) i BEN-Y-GROES. 16 milltir
Cerddwyr profiadol yn unig
Arweinydd: i'w drefnu
Taith 9. PEN-Y-GROES (Maes parcio ger Garej Povey) i'r FAENOL. 13 milltir
Gallwch ymuno a'i gadael fel y mynnwch
Arweinydd: i'w drefnu
PWYSIG! • Cofiwch hysbysu arweinydd/ion y daith os ydych yn meddwl cerdded
• Eich cyfrifoldeb chwi yw canfod eich ffordd adref ar ddiwedd y daith
• Gallwch gasglu'r arian i'ch cronfa apél leol neu i'r gronfa ganolog
• Gallwch ymuno a gadael y daith, e.e. Cricieth, Caernarfon
• Ffurflenni nawdd ychwanegol ar gael gan y trefnydd
• Os oes unrhyw ymholiad, cysylltwch ag
ALUN ROBERTS (01286) 677208 neu alungelli1@gmail.com
PWYSIG! • Mae angen arweinyddion ar gyfer taith 1, 7, 8 a 9! Diddordeb?


Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php

.