Hafan

Y Clwb

Rhaglen
gyfredol

Teithiau
a
digwyddiadau

Fforwm
Y
Clwb

Ffurflen
ymaelodi

Rhagolygon
tywydd

Dolenni i
safleoedd
diddorol
eraill

Oriel y Clwb

Offer i'w
logi

Mynyddiadur

Cysylltu â ni

Erthyglau
Summit

Dogfennau'r Cyngor Mynydda Prydeinig

  CROESO I WEFAN Y CLWB
Hanesion ag hysbysebion
































 

 

EVEREST 1953 - Arddangosfa
Y Cysylltiad ag Eryri
Am ragor o wybodaeth cliciwch YMA


Hanes gwerth ei weld - Diolch i Gerallt Pennant am y wybodaeth
Baffin Island: A Skier's Journey


Stephen Venables
" The Everest Story"
(Speakers from the Edge)
Aberhonddu 27 Mehefin (ticedi: 01874 611622)

Llun digidol newydd o Everest

Cyhoeddwyd llun digidol anferth gan David Breashears o ardal Everest, sy'n rhoi argraff dda o raddfa'r lle. I'w weld cliciwch YMA


Hyfforddiant Awyr Agored

Ydych chi eisiau gweithio drwyʼr Gymraeg yn y maes awyr agored?
Angen cymwysterau ac hyfforddiant?

Mae gan Mentrau Iaith y Gogledd gynllun cyffrous sydd yn rhan o gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru aʼr undeb Ewropeaidd.
Gall y cynllun gynnig hyd at 75% o gymorth ariannol i hyfforddwyr Cymraeg fynychu hyfforddiant yn y maes.
Bydd y cynllun yn rhedeg o Ionawr 2012 hyd at Ragfyr 2013.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu becyn ymgeisio cysylltwch â Bedwyr ap Gwyn / Esyllt Tudur
01492 642357 bedwyr@menteriaithconwy.cymru247.net


Siacedi a Siwmperi cnu (fleece) gyda bathodyn Y Clwb

Mae Guto Evans wedi trefnu i gael siacedi a siwmperi cnu (fleece) o amrywiol liwiau a maintioli, gyda bathodyn Clwb Mynydda Cymru yn rhan ohonynt. Dangosodd rhain yng Nghyfarfod Blynyddol Y Clwb, fis Tachwedd.


Siaced ...............Siwmper

Mae'r siaced â zip i'r gwaelod: XS yn 36"; S yn 38"; M yn 40": L yn 42/44"; XL yn 46"; XXL yn 48". lliwiau Coch; Du, Navy a Bottle Green. £16.20 + 3.50 cludiant,
Mae'r micro fleece â Zip 1/4: S yn 36/38"; M yn 38/40; L yn 40/42"; XL yn 42/44"; XXl yn 44/46". lliwiau: Coch; Du a Navy. £16.20 + 3.50 cludiant.
Os oes unrhyw un eisiau archebu rhai cysylltwch hefo … Guto Evans,
Maes yr Helyg, Heol Nant y Ci,
Saron Rhydaman, SA18 3TP
guto.evans@btinternet.com


Rhestr o Gopaon Cymru - ar Wicipedia
Mae rhestr gyflawn o gopaon Cymru ar gael ar Wicipedia. Ceir dipyn o fanylion am bob un hefyd - a gallwch ychwanegu atynt neu ei golygu.


Llawlyfr Gwyn Gogledd Cymru
Lawrlwythwch lyfryn yn cynnwys canllawiau ar gyfer sut i osgoi niweidio
cynefinoedd gwantan yn eryri yn ystod y gaeaf oddi YMA


Trafodaethau Clwb Mynydda Cymru
ar y Gweplyfr/Facebook


Wal Ddringo yn Harlech
 
Mae yna wal ddringo newydd wedi ei hagor ers mis Tachwedd 2011 ar safle Pwll Nofio Harlech.

Mae llawer o waith wedi mynd i mewn i adeiladu un o'r waliau dringo gorau yng Ngwledydd Prydain. Mae'r wal yn cynnig her i ddringwyr o bob safon felly os nad ydych wedi dringo o'r blaen mae cyfle i chi feithrin y grefft ar eich stepen drws.

Mae'r amserlen a'r prisiau i'w cael ar eu gwefan.
Yn ogystal â wal ddringo, mae yna gaffi newydd ar fin agor a derbynfa newydd sbon wedi ei datblygu yn y pwll nofio.
Mae'r pwll nofio angen trigolion yr ardal i gefnogi'r holl atyniadau gan gynnwys y wal ddringo a'r pwll nofio felly dewch yn llu!!


DRINGO
DRINGO DAN DO
Pob nos Wener cynta’r mis bydd rhai o aelodau’r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon. Mae’r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i’r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534. Mae Arwel Roberts a’r criw dringo hwythau yn dringo dan do bob nos Iau yn ystod y gaeaf ar amrywiaeth o waliau dringo yn y Gogledd Orllewin. Cyfarfod am 7 o’r gloch. I gael eich cynnwys ar y rhestr e-bostio neu am wybodaeth pellach, yna cysylltwch ag Arwel ar 01492 514424 / Arwelgwydr@aol.com

DRINGO YN Y DE

Criw’r De: Mae croeso i aelodau eraill y Clwb ymuno a’r criw dringo (a derbyn hyfforddiant os heb ddringo o’r blaen). Os am wneud, rhowch wybod i Guto Evans (guto.evans@btinternet.com) neu Aled Morgan (amorgan@iqep.co.uk).


Am dderbyn hyfforddiant?
Mae'r Clwb yn aelod o'r Bartneriaeth Awyr Agored a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg am brisiau gostyngol, e.e. Cwrs Hyfforddi Arweinwyr Mynydd (Haf) yn £100 yn lle'r £522 arferol.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb (isod),
neu ewch i wefan y Bartneriaeth lle rhestrir y cyrsiau.


Bws Eryri am £1

O ddiwedd Mawrth 2010 gallwch deithio ar fysys Sherpa am £1 yn unig fesul siwrne. Mae'r gwasanaeth bws Sherpa yn teithio ar hyd gogledd Eryri gan gysylltu gyda llwybrau cerdded, atyniadau gwyliau, mynyddoedd a lleoliadau o harddwch arbennig.

Peidiwch â phoeni am y car, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd llwybrau godidog Eryri ac atyniadau eraill. Dim ond £1 fydd pob siwrne ar daith S1, S2 ac S6 yn ei gostio fel rhan o gynllun Goriad Gwyrdd Eryri sy'n bartneriaeth rhwng sawl corff yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chroeso Cymru.

Mae'r bysys yn rhedeg o Lanberis, Pen-y-Pass, Capel Curig, Betws y Coed, Llyn Ogwen a Bethesda.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwynedd.gov.uk neu i www.goriadgwyrdderyri.co.uk


Siopau Trespass
Mae siopau Trespass wedi cytuno i roi 10% i ffwrdd oddi ar unrhywbeth yn eu siopau ym Mwllheli, Abersoch a Bangor i aelodau CMC. Rhaid dangos eich cerdyn aelodaeth.
I aelodau yn y De yna mae gan y cwmni ddwy siop – Penybont a Glyn Ebwy.

AM FYND I'R ATLAS?
Boed daith haf neu aeaf, gweler y gwefannau canlynol:
www.moroccowalkingholidays.com
a
www.atlas-morocco.com
Trefrniant uniongyrchol gydag arweinydd profiadol lleol.
Gwybodaeth a geirda ar gael gan Rhys Dafis ac eraill o aelodau'r Clwb.


Newyddion diweddaraf o'r Partneriaeth Awyr-Agored

CYRSIAU
Mae canolfan dringo'r Beacon (Ceunant) yn cynnig llawer o gyrsiau hyfforddi i aelodau o'r cyhoedd yn ogystal a hyfforddwyr (neu dringwyr sydd a'u golwg ar fod yn hyfforddwyr).
Nifer fach ohonynt sy'n Gymry Cymraeg. Gallant gynnal eu cyrsiau hyfforddi i gyd drwy'r gyfrwng y Gymraeg.
Os oes digon o alw medrant gynnal y cyrsiau canlynol i aelodau'r Clwb:
Gwobr Wal Ddringo (CWA) (lleiafrif o 4 i redeg y cwrs)
Gwobr Rhediad Sengl (SPA) (lleiafrif o 4 i redeg y cwrs)
Gwobr Arweinydd Mynydd (ML) (lleiafrif o 6 i redeg y cwrs)

Maent hefyd yn cynnig pob math o gyrsiau i wella sgiliau ar eu wal ddringo, sy'n cynnwys dringwyr profiadol - www.beaconclimbing.com am fwy o wybodaeth.

Os hoffech ragor o wybodaeth:
Berwyn Evans MIC IML
Prif Hyfforddwr, Canolfan Dringo Beacon

Beicio mynydd
Os am ddiwrnod gwahanol yn beicio trwy goedwigoedd y gogledd neu'r canolbarth, cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514424 neu
Alan Hughes ar 01654 702810

Mynyddiadur - angen cyfraniadau
Yr ydym yn y broses o ddatblygu darpariaeth newydd ar wefan Y Clwb, sef
Y MYNYDDIADUR
Yr amcan yw darparu cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib am fynyddoedd. Bydd llwyddiant y cynllun yn ddibynnol ar gefnogaeth a chyfraniadau. Ar hyn o bryd blaen-ddalen arbrofol a rhai enghreifftiau o ddisgrifiiadau ar gael. Fedrwch chi sgwennu darn am unrhyw fynydd - gyda lluniau os yn bosib?
Byddem yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau neu gyfraniadau.
Cyfeiriad i'w danfon: ymholiadau@clwbmynyddacymru.com

Pethau diddorol eraill
Os am wybodaeth am lefydd i aros, siopau offer, parciau cenedlaethol, canolfannau hyfforddi a phethau diddorol eraill yna ewch i'n tudalen o ddolenni allanol.

** NEGES BWYSIG I AELODAU **
Mae'r Clwb yn defnyddio e-bost i yrru gwybodaeth ychwanegol i'r aelodau (e.e. newidiadau i drefniadau teithiau). Er mwyn sicrhau fod eich manylion cywir gennym, wnewch chi plis yrru e-bost yn cynnwys eich henw yn glir, i ymholiadau@clwbmynyddacymru.com.
Ni fydd y manylion yn cael eu rhyddhau y tu allan i'r Clwb. Llawer o ddiolch!



Noddir
gan:



Llety ar
y wê gan:

Diweddarwyd gan y gwefeistr: 12/05/13