![]() |
||||||
|
|
CROESO I WEFAN Y CLWB | |||||
| Hanesion ag hysbysebion |
COFIWCH
|
|||||
|
PWYSIG - DYFODOL ERYRI
Os am weld manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus cyfredol ar gynllun datblygu Parc Cenedlaethol Eryri, gyda cyfle i fynegi eich barn, yna ewch YMA NEGES O'R WLADFA Derbyniodd Yr Ysgrifennydd lythyr o'r Wladfa yn ddiweddar yn diolch i'r Clwb am gyfraniad i Bwyllgor Ysgol Gymraeg Trevelin. Mae copi o'r llythyr ar gael ar dudalen hanes y daith. Newyddion diweddaraf o'r Partneriaeth Awyr-Agored Dringo ar y graig Bob nos Iau. Amrywiaeth o leoliadau yn Eryri a'r cyffuniau. I'w hysbysu gan e-bost yn wythnosol. Cyfarfod fel arfer oddeutu 17:00 I gael eich cynnwys ar y rhestr e-bostio neu am wybodaeth pellach cysylltwch ag Arwel 01492 514424 / Arwelgwydyr@aol.com AM DREFNU TAITH I NEPAL? Gweler safwe "Nepal Worldlink Adventure" am fanylion Mae gan rai o aelodau'r Clwb gysylltiad uniongyrchol â'r fenter hon HEFYD Mae hen gaffi Crib Goch ar y Stryd Fawr yn Llanberis bellach yn siop sy'n gwerthu dillad, esgidiau ac offer cerdded a mynydda Gelert. 'Clearance outlet' ydi a mae'r rhan fwyaf o'r eitemau gyda hyd at 50% o ostyngiad. Mae cynnig i aelodau CMC, o ddangos eu cerdyn aelodaeth, gael gostyngiad ychwanegol o 10% oddi ar pob dim yn y siop, yn cynnwys y rhai sy'n hanner pris! Dylan Jones (Jock) sy'n rhedeg y siop, a'i gyfeiriad e-bost ydi: info@crib-goch.co.uk CYRSIAU Mae canolfan dringo'r Beacon (Ceunant) yn cynnig llawer o gyrsiau hyfforddi i aelodau o'r cyhoedd yn ogystal a hyfforddwyr (neu dringwyr sydd a'u golwg ar fod yn hyfforddwyr). Nifer fach ohonynt sy'n Gymry Cymraeg. Gallant gynnal eu cyrsiau hyfforddi i gyd drwy'r gyfrwng y Gymraeg. Os oes digon o alw medrant gynnal y cyrsiau canlynol i aelodau'r Clwb: Gwobr Wal Ddringo (CWA) (lleiafrif o 4 i redeg y cwrs) Gwobr Rhediad Sengl (SPA) (lleiafrif o 4 i redeg y cwrs) Gwobr Arweinydd Mynydd (ML) (lleiafrif o 6 i redeg y cwrs) Maent hefyd yn cynnig pob math o gyrsiau i wella sgiliau ar eu wal ddringo, sy'n cynnwys dringwyr profiadol - www.beaconclimbing.com am fwy o wybodaeth. Os hoffech ragor o wybodaeth:Berwyn Evans MIC IML Prif Hyfforddwr, Canolfan Dringo Beacon Beicio mynydd Os am ddiwrnod gwahanol yn beicio trwy goedwigoedd y gogledd neu'r canolbarth, cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Alan Hughes ar 01654 702810 Hanes Hafod Eryri Mae gwaith ar y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa wedi dod i ben dros y gaeaf. Ewch i Blog Eryri Bywiol i weld cyflwr presennol yr adeilad Mynyddiadur - angen cyfraniadau Yr ydym yn y broses o ddatblygu darpariaeth newydd ar wefan Y Clwb, sef Y MYNYDDIADUR Yr amcan yw darparu cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib am fynyddoedd. Bydd llwyddiant y cynllun yn ddibynnol ar gefnogaeth a chyfraniadau. Ar hyn o bryd blaen-ddalen arbrofol a rhai enghreifftiau o ddisgrifiiadau ar gael. Fedrwch chi sgwennu darn am unrhyw fynydd - gyda lluniau os yn bosib? Byddem yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau neu gyfraniadau. Cyfeiriad i'w danfon: ymholiadau@clwbmynyddacymru.com ** NEGES BWYSIG I AELODAU ** Mae'r Clwb yn defnyddio e-bost i yrru gwybodaeth ychwanegol i'r aelodau (e.e. newidiadau i drefniadau teithiau). Er mwyn sicrhau fod eich manylion cywir gennym, wnewch chi plis yrru e-bost yn cynnwys eich henw yn glir, i ymholiadau@clwbmynyddacymru.com. Ni fydd y manylion yn cael eu rhyddhau y tu allan i'r Clwb. Llawer o ddiolch! |
||||||
|
Noddir gan: Llety ar y wê gan: |
||||||
| Diweddarwyd gan y gwefeistr: | 1/08/08 | |||||