Amcanion

Bwriad y tudalennau hyn yw bod yn gronfa o wybodaeth am fynyddoedd ar draws y byd. Cyfeirir yn bennaf at fynyddoedd a ddringwyd, neu sydd o ddiddordeb i aelodau'r clwb. Yn naturiol, y prif amcan yw croniclo mynyddoedd Cymru ac yna unrhyw fynyddoedd diddorol eraill ar draws y byd. Ceisiwn gasglu cymaint o wybodaeth ddiddorol ag sy'n bosib a bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Os gwelwch fylchau sydd heb eu llenwi isod neu fanylion sydd ar goll yna byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu a ni.

Mae cynnwys y tudalennau hyn yn llwyr ddibynnol ar gyfraniadau gan ein darllenwyr, a byddwn yn croesawu unrhyw ychwanegiad at yr wybodaeth arnynt.

Danfoner pob cyfraniad, waeth pa mor bitw - byddwn yn golygu'r wybodaeth yn ofalus cyn ei gyflwyno (gwybodaeth, straeon, chwedlau, dolennau defnyddiol, lluniau a.y.y.b.) at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com.

Mynegai Cymru
  • Yr Wyddfa
  • Carnedd Ugain
  • Crib Goch
  • Carnedd Llewelyn
  • Pen yr Ole Wen
  • Carnedd Dafydd
  • Elidir Fawr
  • Y Garn
  • Glyder Fawr
  • Glyder Fach
  • Tryfan
  • Yr Elen
  • Foel Grach
  • Foel Fras
  • Lliwedd
  • Cader Idris
  • Aran Fawddwy
  • Aran Benllyn
  • Moel Siabod
  • Cnicht
  • Moelwyn Mawr
  • Moelwyn Bach
  • Moel Hebog
  • Mynydd Mawr
  • Moel Eilio
  • Moel Cynghorion
  • Mynydd Drws y Coed
  • Mynydd Tal y Mignedd
  • Garnedd Goch
  • Graig Goch
  • Yr Eifl
  • Gyrn Goch
  • Gyrn Las
  • Gyrn Ddu
  • Craig Cwm Silyn
  • Drum
  • Rhinog Fawr
  • Rhinog Fach
  • Arenig Fawr
  • Pen y Fan
  • Tal y Fan
  • Pumlumon
  • Aran yr Wyddfa
  • Yr Arddu
  • Moel yr Ogof
  • Moel yr Hydd
  • Pen Llithrig y Wrach
  • Pen yr Helgi Du
  • Carnedd y Filiast
  • Mynydd Perfedd
  • Rhobell Fawr
  • Moel Fammau
  • Hiraethog
  • Manod


Ffurfio mynyddoedd a ble maent i'w canfod

Canlyniad i symudiadau ym mhlatiau tectonig y ddaear, dros filiynau o flynyddoedd, yw ffurfiant mynyddoedd. Ble y mae'r platiau hyn yn cyfarfod ceir gwasgedd enfawr sy'n medru gwthio'r platiau i fyny i'r entrychion neu greu llosgfynyddoedd - neu cyfuniad o'r ddau.

Mae rhai platiau yn dal i symud, megis platiau India ag Asia. Y canlyniad yn y fan honno yw'r Himalaya. Gan fod y platiau'n dal i wthio yn erbyn ei gilydd mae'r Himalaya yn dal i dyfu. Canlyniad cyfarfod dau blat cyffelyb, amser maith yn ôl roddodd i ni fynyddoedd Eryri. Ar yr amser y'i ffurfiwyd roeddent yn llawer iawn uwch nag ydynt yn awr - mwy na'r Alpau neu'r Himalaya efallai, pwy wyr. Canlyniad miliynau o flynyddoedd o erydu gan law a rhew - yn arbennig yn ystod yr oesoedd ia - a erydodd fynyddoedd Eryri i lawr i'r hyn ydynt yn awr. Pan ffurfiwyd hwy yn wreiddiol roeddent i'r de o'r cyhydedd, felly mae'r platiau hyn wedi bod yn crwydro o gwmpas y blaned dros bellteroedd mawr.

Lle y gwelwch fynyddoedd mae yna wthio rhwng platiau tectonig wedi digwydd yn ystod rhyw oes neu'i gilydd. Mae'r mynyddoedd uchaf, megis yr Himalaya, Yr Andes a'r Rockies yn dal i gael eu gwthio ar i fyny. O dan rai amgylchiadau mae symudiant y platiau yn achosi i'r creigiau doddi a chael eu gwthio i fyny ar ffurf hylif mewn llosg fynyddoedd. Dyna sut y ffurfiwyd y creigiau gorau i ddringo arnynt - megis gwenithfaen - wrth i grombil hylifol y llosgfynydd oeri a chaledu. Dyna roddodd i ni nodweddion megis Crib Goch a chlogwyni gorau Eryri ar gyfer dringo, megis Dinas Y Gromlech, yn nyffryn Llanberis.

 

Mynegai Gweddill y Byd

Lloegr

  • Scafell Pike

Yr Alban

  • Ben Nevis
  • Cairngorm
  • Ben Macduhi
  • Buchaille Etive Mor
  • Bidean Nam Bian

Iwerddon

  • Carrauntual

 

 

Alpau Awstria

  • Grossglockner
  • Wildspitze

Alpau Ffrainc

  • Mont Blanc

Alpau Swistir

  • Monte Rosa
  • Dom de Michabelle
  • Matterhorn
  • Dent Blanche
  • Weisshorn
  • Eiger
  • Monch
  • Jungfrau

Alpau'r Eidal

  • Gran Paradiso

Himalaya

  • Everest
  • Annapurna
  • K2

Yr Andes

Y Rockies

Africa

A hoffech chi gyfrannu
gwybodaeth neu luniau
i wella'r tudalennau hyn?

Os felly e-bostiwch eich
cyfraniad i ymholiadau@
clwbmynyddacymru.com
Diweddarwyd ddiwethaf:
8/12/07