![]() Ymunwch â ni! Am fwy o fanylion gyrrwch e-bost i: ymholiadau@ clwbmynyddacymru.com |
|||||||
|
Carnedd
Ugain
|
|||||||
|
Disgrifiad |
|||||||
|
Ail
copa ucha Cymru, dim ond ugain metr yn is na chopa'r Wyddfa - pwynt ucha
Crib y Ddysgl a rhan o Bedol yr Wyddfa. Mae'n gopa digon pwysig i bobl
yr Arolwg Ordnans fod wedi gosod piler triongli ar ei ben ac felly yn
hawlio lle yn y Mynyddiadur. Er hynny, fyddai llawer ddim yn ei ystyried
yn fynydd ar wahân. Mae tarddiad yr enw yn anelwig braidd, ond mae
crêd mai llygriad o'r ffurf 'Carnedd Wgon' yw, gan ddilyn y traddodiad
o enwi copaon ar ôl tywysogion. Yn yr achos hwn y tywysog Wgon oedd
yn cael ei anrhydeddu. Mae Dafydd ap Gwilyn yn canu am "Gwlad Wgon,
fawr union faich, Mae Crib y Ddysgl yn rhan o'r mynydd hwn, er nad yw'r copa ei hunan ar ffurf crib. Crib ddwyreiniol sy'n arwain i'r copa yw Crib y ddysgl. Ar ddiwrnod clir gellir gweld i lawr i gyfeiriad Cwm Glas i'r gogledd dwyrain ac i Lyn Galslyn i'r de ddwyrain, gyda copa'r Wyddaf yn union i'r de. Oddi yma y ceir un o'r golygfeydd gorau o Lyn Galslyn, Bwlch y Saethau a Lliwedd gyda'i gilydd. |
|||||||
|
Lleoliad
|
|||||||
|
Gwlad:
|
Cymru | ||||||
|
Ardal:
|
Eryri | ||||||
|
Uchder
(m/tr)
|
|||||||
|
1065/3494
|
|||||||
|
Esgyniad
cyntaf
|
|||||||
|
Blwyddyn:
|
Pwy a wyr? | ||||||
|
Gan:
|
Tywysog Wgon? | ||||||
|
Cyfeirnod
Map
y copa |
|||||||
|
SH611511
|
|||||||
|
Lluniau
|
Llwybrau
cerdded a dringo
|
||||||
| Rhyw gyrraedd copa Garnedd Ugain ar y ffordd i ben Yr Wyddfa o gyfeiriad y Grib Goch, Bwlch Coch a Chrib Y Ddysgl yw'r llwybr arferol i'w ddilyn. Gellir ei gyrraedd hefyd mewn ychydig iawn o amser o Llwybr Llanberis i ben yr Wyddfa gan droi i'r chwith ar Fwlch Glas, yn y fan lle'r ymuna Llwybrau'r PYG a'r Mwynwyr â llwybr Llanberis, ac yna dilyn y grib i gopa Carnedd Ugain. Mae'n bosib hefyd dringo iddo o gyfeiriad Cwm Glas. | |||||||
| Nodiadau diddorol eraill | |||||||
| {Nodiadaueraill} | |||||||
| Dolenni cysylltiol | |||||||
| Wikipedia; | |||||||
| Ymweliadau'r Clwb | |||||||
|
A
hoffech chi gyfrannu
gwybodaeth neu luniau i wella'r dudalen hon? Os felly e-bostiwch eich cyfraniad i ymholiadau@ clwbmynyddacymru.com |
|||||||
| 01-01-06;01-10-07 | |||||||
| Cyfraniadau gan: | Iolo ap Gwynn | ||||||
| Diweddarwyd ddiwethaf: | 10/11/07 | ||||||