![]() Ymunwch â ni! Am fwy o fanylion gyrrwch e-bost i: ymholiadau@ clwbmynyddacymru.com |
|||||||
|
Cader
Idris
|
|||||||
|
Disgrifiad |
|||||||
|
Mae'n siwr mai dyma'r mynydd ail-enwocaf yng Nghymru. Hawdd deall paham, oherwydd mae'r ffaith ei fod yn codi'n syth mwy neu lai o lefel y môr ar ddwy ochr (dyffryn y Fawddach a Dolgellau i'r gogledd a Thalyllyn i'r de) yn sicrhau ei fod yn amlwg iawn o bron bob cyfeiriad. Mae hefyd yn is na'r tair mil troedfedd safonol. Nid yw hyd yn oed y mynydd uchaf ym Meirionnydd - Yr Aran Fawddwy sy'n cael y fraint honno. Er hynny, mae'n fynydd gosgeiddig gyda clogwyni trawiadol. Dyma'r mynydd creigiog pellaf i'r de yng Nghymru ac yn haeddu ei le yn Eryri. Mae traddodiad lleol yn honni os treuliwch y nos ar y copa yna dowch i lawr yn y bore yn fardd! Yn sicr, os ceir diwrnod clir, mae'r golygfeydd o'r copa yn arbennig iawn a gellir cymharu tirwedd ysgythrog Eryri gyda'r copaon unffurf crwn i'r de. Mae adeilad yn agos i'r copa hefyd, ond dim tren! Dydi'r adeilad ddim byd tebyg i'r hen gaffi copa'r Wyddfa, heb sôn am Hafod Eryri. Er hynny, cafodd ei do ei adnewyddu gyda shitiau sinc ac mae'n rhoi cysgodfan digon derbyniol ar dywydd drwg. Yn wir, yn ystod dyddiau megis Gwyl SanSteffan gall fod yn llawn iawn yn ystod amser cinio ar dywydd drwg. Adeiladwyd y cwt gwreiddiol i werthu diodydd (Diodydd Idris) i ymwelwyr ar ddiwedd y 19eg garif a dechrau'r 20fed. Y pwynt uchaf yw Pen y Gader ar grib sy'n estyn yr holl ffordd o Fryncrug i Fwlch TalyLlyn. Y pen gollewinol i'r tir uchaf yw Pen y Gader a cheir cefnen uchel yn ei chysylltu â'r pen uchaf dwyreiniol, sef Mynydd Moel (863m/2804tr). Mae Llyn y Gadair yn y cwm i'r gogledd o'r copa a Llyn Cau yn y cwm i'r de. Dyma gwm clasurol a ffurfiwyd gan y rhewlif yn ystod oes yr ia, a defnyddiwyd ei ffurfiau i ddysgu cenedlaethau o fyfyrwyr am nodweddion tirwedd o'r fath. Uwchben Llyn Cau mae Craig Cau (neu Gau Graig?) gyda'i chlogwyn du. Yn ôl chwedloniaeth fe afaelodd y cawr Idris mewn talp mawr o graig, ble mae Llyn y Gadair yn awr, a'i daflu mewn cynddaredd at Bendigeidfran yn y gogledd - wedi rhyw ffrae neu'i gilydd. Disgynodd y graig yn aber Y Ddwyryd - sef Ynys Gifftan, gyferbyn a Phorthmeirion. Mae creigiau'r Gader yn gyfoethog mewn mwynau ac o'r herwydd ceir cyfoeth o lysdyfiant arnynt yn arbennig ar y clogwyni gogleddol uwchben Dolgellau. Ar y clogwyni uwchben Llyn y Gader y torrodd yr arloeswr enwog Owen Glyn Jones (o'r Bermo) ei ddanedd dringo. Noder ei esgyniad o'r 'bwrdd' craig ar Y Cyfrwy. Os am ragor o'i hanes darllenwch 'Galwad y Mynydd' gan Ioan Bowen Rees. Anfarwolwyd Craig Cau, a'r Gader, yn 1774 gan ddarlun enwog Richard Wilson. |
|||||||
|
Lleoliad
|
|||||||
|
Gwlad:
|
Cymru | ||||||
|
Ardal:
|
Meirionnydd | ||||||
|
Uchder
(m/tr)
|
|||||||
|
893/2927
|
|||||||
|
Esgyniad
cyntaf
|
|||||||
|
Blwyddyn:
|
Dim syniad | ||||||
|
Gan:
|
Pwy bynnag oedd daeth i lawr yn fardd, neu'n wallgof, os arhosodd dros nos! | ||||||
|
Cyfeirnod
Map
y copa |
|||||||
|
SH710130
|
|||||||
|
Lluniau
|
Llwybrau
cerdded a dringo
|
||||||
![]() Llun: Iolo ap Gwynn |
Dyma'r
llwybr mwyaf poblogaidd i ben y Gader, gan y gellir dychwelyd i'r man
cychwyn. Mae'n rhoi taith amrywiol a difyr, i'w chymeradwyo. Mae bysiau
o Ddolgellau, Machynlleth a Tywyn yn pasio'n rheolaidd (Gweler safwe Traveline
Cymru am fanylion). |
||||||
| Nodiadau diddorol eraill | |||||||
| {Nodiadaueraill} | |||||||
| Dolenni cysylltiol | |||||||
| Wikpedia; BBC; | |||||||
| Ymweliadau'r Clwb | |||||||
|
A
hoffech chi gyfrannu
gwybodaeth neu luniau i wella'r dudalen hon? Os felly e-bostiwch eich cyfraniad i ymholiadau@ clwbmynyddacymru.com |
|||||||
| 18-03-06; 16-06-07; | |||||||
| Cyfraniadau gan: | Iolo ap Gwynn | ||||||
| Diweddarwyd ddiwethaf: | 8/12/07 | ||||||